P-04-381 Adfer Ysbyty Gogledd Cymru

Geiriad y ddeiseb:

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i asesu treftadaeth bensaernïol Ysbyty Gogledd Cymru ac i sicrhau bod y clwydfannau ystlumod sydd yno yn cael eu gwarchod. Ein dymuniad yw bod yr adeilad gwirioneddol unigryw hwn yn cael ei gadw a’i adfer ar gyfer y genedl.

Gwybodaeth ategol:
Gwybodaeth ategol: Mae Ysbyty Gogledd Cymru yn enghraifft dda o loches Fictorianaidd a gynlluniwyd gan y pensaer Thomas Full James. Agorodd ym 1848 a chaeodd ei ddrysau ym 1995. Gyda 160 mlynedd o hanes o fewn ei furiau, mae’r bygythiad i’r adeilad yn un real, ond dylai Ysbyty Gogledd Cymru gynt rannu ei stori drist, gyda’r nod o gadw’r safle 126 acer hwn, i warchod y cyd-destun hanesyddol ar gyfer y cenedlaethau sydd i ddod. Yn ystod y cyfnod ar ôl gwaredu’r ysbyty, cafwyd dilyniant o berchnogion, ac mae rhai ohonynt wedi cyfrannu tuag at ddirywiad yr adeiladau, gan gymryd asedau oddi yno a dymchwel adeiladau rhestredig yn groes i Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990. Bu tarfu ar glwydfannau ystlumod, ac mae hynny’n groes i Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981.

Cafwyd problemau niferus o ran gwaredu ac ail-ddatblygu’r ysbyty Fictorianaidd hwn a’r adeiladau sy’n gysylltiedig ag ef, ers dros 15 mlynedd. Disgrifiwyd yr adeilad unwaith gan asiantaeth amgylchedd hanesyddol Cymru, Cadw, fel yr ysbyty pwrpasol mwyaf gwych i gael ei godi yng Nghymru erioed. Fodd bynnag, gallai’r awdurdod lleol gael ei roi mewn perygl ariannol dirfawr pe bai’n cael y safle tra bo cyflwr yr adeiladau yn dal i ddirywio, oni bai ei fod wedi cytuno ar amrywiaeth hyfyw o ddefnyddiau newydd a bod ganddynt bartner datblygu i ddarparu’r cynllun. Byddai o werth archwilio hanes y broses waredu hyd yma, gan fod yr hanes hwnnw’n tynnu sylw at nifer o wersi defnyddiol iawn i’w dysgu, sy’n berthnasol yn ehangach.

Cyflwynwyd gan:Paul Sharrock, restoration4nwh

Ystyriwyd gan y Pwyllgor am y tro cyntaf: 27 Mawrth 2012

Nifer y llofnodion:29